28. A'i weision a'i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a'i claddasant ef yn ei feddrod gyda'i dadau, yn ninas Dafydd.
29. Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda.
30. A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr.
31. A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i'r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr?
32. Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o'r ystafellyddion a edrychasant arno ef.
33. Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a'i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o'i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a'i mathrodd hi.
34. A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi.