2 Brenhinoedd 8:21-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A Joram a aeth trosodd i Sair, a'r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a'r bobl a ffodd i'w pebyll.

22. Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw.

23. A'r rhan arall o hanes Joram, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

2 Brenhinoedd 8