2 Brenhinoedd 4:13-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni â'r holl ofal yma; beth sydd i'w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo.

14. Ac efe a ddywedodd, Beth gan hynny sydd i'w wneuthur erddi hi? A Gehasi a ddywedodd, Yn ddiau nid oes iddi fab, a'i gŵr sydd hen.

15. Ac efe a ddywedodd, Galw hi. Ac efe a'i galwodd hi; a hi a safodd yn y drws.

16. Ac efe a ddywedodd, Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth, ti a gofleidi fab. Hithau a ddywedodd, Nage, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i'th lawforwyn.

17. A'r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywoliaeth, yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi.

18. A'r bachgen a gynyddodd, ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr.

19. Ac efe a ddywedodd wrth ei dad, Fy mhen, fy mhen. Dywedodd yntau wrth lanc, Dwg ef at ei fam.

20. Ac efe a'i cymerth, ac a'i dug ef at ei fam. Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd, ac a fu farw.

2 Brenhinoedd 4