6. A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o'r tu ôl i'r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri.
7. A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr Arglwydd, ynghylch y brenin.
8. A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un â'i arfau yn ei law; a'r hwn a ddelo i'r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda'r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn.
9. A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda'r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad.
10. A'r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd.
11. A'r swyddogion a safasant bob un â'i arfau yn ei law, o'r tu deau i'r tŷ, hyd y tu aswy i'r tŷ, wrth yr allor a'r tŷ, amgylch ogylch y brenin.