2 Brenhinoedd 11:19-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a'r capteiniaid, a'r swyddogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o dŷ yr Arglwydd, ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd.

20. A holl bobl y wlad a lawenychasant, a'r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Athaleia â'r cleddyf wrth dŷ y brenin.

21. Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.

2 Brenhinoedd 11