2 Brenhinoedd 10:19-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal, ei holl weision, a'i holl offeiriaid ef, na fydded un yn eisiau; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal: pwy bynnag a fyddo yn eisiau, ni bydd efe byw. Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethai efe addolwyr Baal.

20. A Jehu a ddywedodd, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a'i cyhoeddasant.

21. A Jehu a anfonodd trwy holl Israel; a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd un yn eisiau a'r ni ddaethai: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd.

22. Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt.

23. A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr Arglwydd, ond addolwyr Baal yn unig.

24. A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osododd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o'r dynion a ddygais i'ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef.

2 Brenhinoedd 10