1 Timotheus 5:16-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.

17. Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth.

18. Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu'r ŷd: ac, Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.

19. Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion.

20. Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.

21. Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.

22. Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.

23. Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a'th fynych wendid.

24. Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o'r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.

1 Timotheus 5