1 Timotheus 1:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac i'r Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i'r Duw unig ddoeth, y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

18. Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o'r blaen amdanat, ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda;

19. Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd:

20. O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander; y rhai a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.

1 Timotheus 1