1 Samuel 9:11-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, hwy a gawsant lancesau yn dyfod allan i dynnu dwfr; ac a ddywedasant wrthynt, A yw y gweledydd yma?

12. Hwythau a'u hatebasant hwynt, ac a ddywedasant, Ydyw; wele efe o'th flaen; brysia yr awr hon; canys heddiw y daeth efe i'r ddinas; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa.

13. Pan ddeloch gyntaf i'r ddinas, chwi a'i cewch ef, cyn ei fyned i fyny i'r uchelfa i fwyta; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe, oherwydd efe a fendiga yr aberth; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd: am hynny ewch i fyny; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef.

14. A hwy a aethant i fyny i'r ddinas; a phan ddaethant i ganol y ddinas, wele Samuel yn dyfod i'w cyfarfod, i fyned i fyny i'r uchelfa.

15. A'r Arglwydd a fynegasai yng nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd.

16. Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a'i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf.

17. A phan ganfu Samuel Saul, yr Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt: hwn a lywodraetha ar fy mhobl.

1 Samuel 9