1 Samuel 8:16-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Eich gweision hefyd, a'ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a'ch asynnod, a gymer efe, ac a'u gesyd i'w waith.

17. Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef.

18. A'r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.

19. Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywedasant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni:

1 Samuel 8