1 Samuel 4:5-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i'r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.

6. A phan glybu'r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i'r gwersyll.

7. A'r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth Duw i'r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu'r fath beth o flaen hyn.

8. Gwae ni! pwy a'n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â'r holl blâu yn yr anialwch.

9. Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu'r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.

10. A'r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i'w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed.

11. Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.

1 Samuel 4