18. A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr Arglwydd. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i'w dŷ ei hun.
19. Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn amddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachila, yr hwn sydd o'r tu deau i'r diffeithwch?
20. Ac yn awr, O frenin, tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin.
21. A dywedodd Saul, Bendigedig fyddoch chwi gan yr Arglwydd: canys tosturiasoch wrthyf.
22. Ewch, atolwg, paratowch; eto mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gyniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a phwy a'i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn.