7. Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o'i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd;
8. Gan i chwi oll gydfwriadu i'm herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o'm mab i gynghrair รข mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o'm plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod i'm mab annog fy ngwas i gynllwyn i'm herbyn, megis y dydd hwn?
9. Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub.