3. A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw, a'th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau.
4. Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a'i cwblhaf i ti.
5. A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o'r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda'r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd.
6. Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol sydd yno i'r holl genedl.
7. Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch fydd i'th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg.
8. Gwna gan hynny drugaredd â'th was; canys i gyfamod yr Arglwydd y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad?
9. A dywedodd Jonathan, Na ato Duw hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i'th erbyn, onis mynegwn i ti?
10. A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a'th etyb yn arw?
11. A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i'r maes. A hwy a aethant ill dau i'r maes.
12. A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O Arglwydd Dduw Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a'i fynegi i ti;
13. Fel hyn y gwnêl yr Arglwydd i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a'th ollyngaf ymaith, fel yr elych mewn heddwch: a bydded yr Arglwydd gyda thi, megis y bu gyda'm tad i.
14. Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr Arglwydd â mi, fel na byddwyf fi marw:
15. Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr Arglwydd elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear.
16. Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned yr Arglwydd hyn ar law gelynion Dafydd.
17. A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a'i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef.
18. A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o'r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag.
19. Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i'r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Esel.
20. A mi a saethaf dair o saethau tua'i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod.
21. Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o'r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr Arglwydd.