1. A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd.
2. Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia:
3. A mi a af allan, ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo, a mi a ymddiddanaf รข'm tad o'th blegid di; a'r hyn a welwyf, mi a'i mynegaf i ti.