1 Samuel 17:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynullasant yn Socho, yr hon sydd yn Jwda, ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca, yng nghwr Dammim.

2. Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid.

1 Samuel 17