1 Samuel 16:4-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr Arglwydd, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlon dy ddyfodiad?

5. Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i'r Arglwydd: ymsancteiddiwch, a deuwch gyda mi i'r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a'i feibion, ac a'u galwodd hwynt i'r aberth.

6. A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr Arglwydd ger ei fron ef.

7. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon.

8. Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith.

9. Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith.

1 Samuel 16