1 Samuel 16:17-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef ataf fi.

18. Ac un o'r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a'r Arglwydd sydd gydag ef.

19. Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda'r praidd.

20. A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a'u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul.

21. A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a'i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.

22. A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, atolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg.

23. A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth Dduw ar Saul, y cymerai Dafydd delyn, ac y canai â'i ddwylo; a byddai esmwythdra i Saul; a da oedd hynny iddo, a'r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho.

1 Samuel 16