1 Samuel 13:7-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A rhai o'r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul oedd eto yn Gilgal, a'r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu.

8. Ac efe a arhosodd saith niwrnod, hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel. Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal; a'r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef.

9. A Saul a ddywedodd, Dygwch ataf fi boethoffrwm, ac offrymau hedd. Ac efe a offrymodd y poethoffrwm.

10. Ac wedi darfod iddo offrymu'r poethoffrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac i gyfarch gwell iddo.

11. A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd, Oherwydd gweled ohonof i'r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i'r Philistiaid ymgasglu i Michmas;

12. Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal, ac ni weddïais gerbron yr Arglwydd: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymais boethoffrwm.

13. A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr Arglwydd yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd.

14. Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr Arglwydd a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr Arglwydd i ti.

15. A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef, ynghylch chwe chant o wŷr.

16. A Saul a Jonathan ei fab, a'r bobl a gafwyd gyda hwynt, oedd yn aros yn Gibea Benjamin: a'r Philistiaid a wersyllasant ym Michmas.

1 Samuel 13