1 Samuel 12:9-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A phan angofiasant yr Arglwydd eu Duw, efe a'u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i'w herbyn hwynt.

10. A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr Arglwydd, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a'th wasanaethwn di.

11. A'r Arglwydd a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a'ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel.

12. A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a'r Arglwydd eich Duw yn frenin i chwi.

13. Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a'r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi.

14. Os ofnwch chwi yr Arglwydd, a'i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y byddwch chwi, a'r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr Arglwydd eich Duw.

15. Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd, eithr anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y bydd llaw yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.

16. Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi.

1 Samuel 12