1 Samuel 12:22-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i'r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.

23. A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn.

24. Yn unig ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â'ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.

25. Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a'ch brenin a ddifethir.

1 Samuel 12