1 Samuel 12:19-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A'r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr Arglwydd dy Dduw, fel na byddom feirw; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.

20. A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd, ond gwasanaethwch yr Arglwydd â'ch holl galon;

21. Ac na chiliwch: canys felly yr aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni'ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy.

22. Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i'r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.

23. A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn.

24. Yn unig ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â'ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.

25. Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a'ch brenin a ddifethir.

1 Samuel 12