1 Samuel 11:2-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf â chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel.

3. A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a'n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.

4. A'r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A'r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.

5. Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o'r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i'r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes.

6. Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a'i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.

1 Samuel 11