7. Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a'r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw.
8. Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.
9. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.
10. Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.
11. Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.
12. Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.
13. Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Ysbryd.
14. A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i'r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i'r byd.
15. Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.
16. A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau.
17. Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
18. Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A'r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad.
19. Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.