8. Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom.
9. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y'n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder.
10. Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i air ef nid yw ynom.