1 Cronicl 8:28-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem.

29. Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha.

30. Ac Abdon ei fab cyntaf‐anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab,

31. Gedor hefyd, ac Ahïo, a Sacher.

32. Micloth hefyd a genhedlodd Simea: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr, a breswyliasant yn Jerwsalem gyda'u brodyr.

1 Cronicl 8