1 Cronicl 6:28-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. A meibion Samuel; y cyntaf‐anedig, Fasni, yna Abeia.

29. Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau,

30. Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau.

31. Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorffwys o'r arch.

32. A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth.

33. A dyma y rhai a weiniasant, a'u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel,

34. Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa,

35. Fab Suff, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai,

1 Cronicl 6