24. Tahath ei fab yntau, Uriel ei fab yntau, Usseia ei fab yntau, a Saul ei fab yntau.
25. A meibion Elcana; Amasai, ac Ahimoth.
26. Elcana: meibion Elcana; Soffai ei fab ef, a Nahath ei fab yntau.
27. Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau.
28. A meibion Samuel; y cyntaf‐anedig, Fasni, yna Abeia.
29. Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau,
30. Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau.
31. Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorffwys o'r arch.
32. A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth.
33. A dyma y rhai a weiniasant, a'u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel,
34. Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa,