24. Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul:
25. Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.
26. A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau.
27. Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i'w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda.
28. A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasarāsual,
29. Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad,