1 Cronicl 3:4-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

5. A'r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:

6. Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,

7. A Noga, a Neffeg, a Jaffia,

8. Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.

9. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.

1 Cronicl 3