14. Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
15. Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
16. Ac ar lwythau Israel: ar y Reubeniaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha:
17. Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc:
18. Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael:
19. Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel:
20. Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab Pedaia:
21. Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner:
22. Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel.
23. Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr Arglwydd yr amlhâi efe Israel megis sêr y nefoedd.
24. Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd.
25. Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia.
26. Ac ar weithwyr y maes, y rhai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab Celub.
27. Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod o'r gwinllannoedd i'r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad.
28. Ac ar yr olewydd, a'r sycamorwydd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd Baalhanan y Gederiad: ac ar y selerau olew yr oedd Joas.
29. Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron, yr oedd Sitrai y Saroniad: ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saffat mab Adlai.
30. Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad: ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad.
31. Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo y brenin Dafydd.