1 Cronicl 26:27-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. O'r rhyfeloedd ac o'r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr Arglwydd.

28. A'r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, a Joab mab Serfia, a phwy bynnag a gysegrasai ddim, yr oedd efe dan law Selomith a'i frodyr.

29. O'r Ishariaid, Chenaneia a'i feibion oedd yn Israel yn swyddogion, ac yn farnwyr, ar y gwaith oddi allan.

30. O'r Hebroniaid, Hasabeia a'i frodyr, meibion nerthol, mil a saith gant, oedd mewn swydd yn Israel, o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua'r gorllewin, yn holl waith yr Arglwydd, ac yng ngwasanaeth y brenin.

31. O'r Hebroniaid, Jereia oedd ben o'r Hebroniaid, yn ôl cenedlaethau ei dadau: yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, a chafwyd yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol, yn Jaser Gilead.

32. A'i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau‐cenedl: a Dafydd y brenin a'u gosododd hwynt ar y Reubeniaid, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ym mhob gorchwyl Duw, a gorchwyl y brenin.

1 Cronicl 26