1 Cronicl 26:17-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Tua'r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua'r gogledd pedwar beunydd, tua'r deau pedwar beunydd, a thuag Asuppim dau a dau.

18. A Pharbar tua'r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Parbar.

19. Dyma ddosbarthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.

20. Ac o'r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw, ac ar drysorau y pethau cysegredig.

21. Am feibion Laadan: meibion y Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Gersoniad, oedd Jehieli.

1 Cronicl 26