1 Cronicl 26:13-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A hwy a fwriasant goelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bob porth.

14. A choelbren Selemeia a syrthiodd tua'r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a'i goelbren ef a ddaeth tua'r gogledd.

15. I Obed‐edom tua'r deau, ac i'w feibion, y daeth tŷ Asuppim.

16. I Suppim, a Hosa, tua'r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall.

1 Cronicl 26