1 Cronicl 23:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr Arglwydd â'r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu.

6. A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.

7. O'r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei.

8. Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.

1 Cronicl 23