1 Cronicl 21:14-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr.

15. A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i'w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr Arglwydd a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

16. A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaear a'r nefoedd, a'i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem. A syrthiodd Dafydd a'r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.

17. A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O Arglwydd fy Nuw, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.

18. Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i'r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

19. A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr Arglwydd.

1 Cronicl 21