1 Cronicl 21:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
1. A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel.
2. A dywedodd Dafydd wrth Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt.