4. Ac ar ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr; felly y darostyngwyd hwynt.
5. A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a laddodd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.
6. Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a'i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i'r cawr.
7. Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a'i lladdodd ef.
8. Y rhai hyn a anwyd i'r cawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.