27. A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jamin, ac Ecer.
28. A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.
29. Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid.
30. A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi‐blant.
31. A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai.
32. A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi‐blant.
33. A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.
34. Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad, a'i enw Jarha.
35. A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo Attai.
36. Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad.
37. A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed,
38. Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Asareia,
39. Ac Asareia a genhedlodd Heles, a Heles a genhedlodd Eleasa,
40. Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai, a Sisamai a genhedlodd Salum,
41. A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.
42. Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd, Mesa ei gyntaf‐anedig, hwn oedd dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron.
43. A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema.