1 Cronicl 2:15-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed:

16. A'u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri.

17. Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.

18. A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon.

19. A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur.

20. A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.

21. Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a'i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub.

22. A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.

23. Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a'i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead.

24. Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.

25. A meibion Jerahmeel cyntaf‐anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa.

26. A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a'i henw Atara: hon oedd fam Onam.

27. A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jamin, ac Ecer.

28. A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.

29. Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid.

30. A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi‐blant.

31. A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai.

32. A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi‐blant.

1 Cronicl 2