1 Cronicl 19:14-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Yna y nesaodd Joab a'r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i'r rhyfel; a hwy a ffoesant o'i flaen ef.

15. A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i'r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem.

16. A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o'r tu hwnt i'r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o'u blaen hwynt.

17. A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef.

18. Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a lladdodd Dafydd o'r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau, a deugain mil o wŷr traed, ac a laddodd Soffach capten y llu.

19. A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel, hwy a heddychasant â Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meibion Ammon mwyach.

1 Cronicl 19