1 Cronicl 18:11-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i'r Arglwydd, gyda'r arian a'r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.

12. Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg.

13. Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a'r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A'r Arglwydd a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.

14. A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i'w holl bobl.

15. A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;

16. A Sadoc mab Ahitub, ac Abimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd;

17. Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a'r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.

1 Cronicl 18