1 Cronicl 16:22-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Na chyffyrddwch â'm heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

23. Cenwch i'r Arglwydd yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.

24. Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a'i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd.

25. Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.

26. Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.

1 Cronicl 16