6. A Noga, a Neffeg, a Jaffa,
7. Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.
8. A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt.
9. A'r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim.
10. A Dafydd a ymgynghorodd รข Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a'u rhoddaf hwynt yn dy law di.