1 Cronicl 11:19-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac efe a ddywedodd, Na ato fy Nuw i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.

20. Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o'r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a'u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri.

21. O'r tri, anrhydeddusach na'r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf.

1 Cronicl 11