1 Cronicl 1:10-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A Chus a genhedlodd Nimrod: hwn a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.

11. A Misraim a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftuhim,

12. Pathrusim hefyd, a Chasluhim, (y rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt,) a Chafftorim.

13. A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth,

14. Y Jebusiad hefyd, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,

15. A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,

16. A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad.

17. Meibion Sem; Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram, ac Us, a Hul, a Gether, a Mesech.

18. Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Eber.

19. Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear: ac enw ei frawd oedd Joctan.

20. A Joctan a genhedlodd Almodad, a Seleff, a Hasarmafeth, a Jera,

21. Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,

22. Ac Ebal, ac Abimael, a Seba,

1 Cronicl 1