1 Corinthiaid 9:16-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl.

17. Canys os gwnaf hyn o'm bodd, y mae i mi wobr: ond os o'm hanfodd, ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl.

18. Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi, pan efengylwyf, osod efengyl Crist yn rhad, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl.

19. Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a'm gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy.

1 Corinthiaid 9