5. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,)
6. Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.
7. Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o'r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.
8. Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach.