1 Corinthiaid 15:34-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch: canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn.

35. Eithr fe a ddywed rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac รข pha ryw gorff y deuant?

36. O ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw.

37. A'r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall.

38. Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun.

39. Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar.

1 Corinthiaid 15