1 Corinthiaid 13:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian.

2. A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.

3. A phe porthwn y tlodion â'm holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i'm llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi.

1 Corinthiaid 13